Asesiad Lles

Mae asesiad lles yn ffordd o weld pa help y gallai fod ei angen arnoch chi.

Byddwn yn cwrdd â chi i siarad am:

  • eich anghenion chi, a
  • beth sy’n bwysig i chi.

Gallwch chi gael pobl eraill gyda chi pan fyddwn ni’n cwblhau eich asesiad lles.

Byddwn ni’n gofyn cwestiynau fel:

  • beth sy’n bwysig i chi?
  • beth sy’n digwydd yn eich bywyd chi ar hyn o bryd?
  • pwy sy’n eich cefnogi chi ar hyn o bryd?
  • beth ydych chi’n dda yn ei wneud?
  • gyda beth y mae angen help arnoch chi?
  • pa sgiliau yr hoffech chi eu dysgu?
  • beth hoffech chi ei weld yn digwydd nesaf?

Byddwn ni’n ysgrifennu’r holl wybodaeth amdanoch chi a’ch anghenion.

Byddwn ni’n cytuno ar gynllun gofal gyda chi.

Gall eich cynllun gofal gynnwys:

  • beth sy’n bwysig i chi a’ch nodau chi,
  • pa gymorth sydd ei angen arnoch chi,
  • pethau y gallwch chi eu gwneud eich hun,
  • cymorth rydych chi’n ei gael gan eich teulu a’ch ffrindiau,
  • cymorth y gallwch chi ei gael yn eich cymuned, a
  • chymorth sy’n cael ei gynnig gan y cyngor.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn nodi sut y dylai gwasanaethau yng Nghymru gael eu darparu.

Mae’n dweud wrthon ni pryd a sut y dylai asesiadau gael eu cwblhau.