Eiriolaeth

Gallwch ddysgu mwy am eiriolaeth a sut y gallai eich helpu.

Beth yw eiriolaeth?

Mae eiriolaeth yn helpu pobl i siarad drostynt eu hunain os oes angen help arnynt.

Gall eiriolaeth eich helpu i gael mwy o ddewis a rheolaeth dros eich bywyd.

Mae ein gwasanaethau eiriolaeth lleol yn annibynnol ar y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae yna wahanol ffyrdd o gael help i siarad am rywbeth os ydych chi’n poeni amdano.

Gall eich ffrindiau neu’ch teulu eich helpu i siarad.

Group holding up a People First banner

Mae People First yn sefydliad hunan-eiriolaeth sy’n cael ei redeg gan bobl sydd ag anabledd dysgu.

Image of a microphone against red background

Gall People First eich helpu i ddysgu siarad drosoch eich hun.

Maent yn helpu pobl i:

  • leisio eu barn,
  • sefyll dros eu hawliau a
  • gweithio i newid agweddau.
Two people smiling at event

Maen nhw’n cynnal nifer o grwpiau ac ymgyrchoedd rheolaidd y gallwch chi gymryd rhan ynddynt.

Gallwch ddefnyddio eiriolwr annibynnol.

Eiriolwr proffesiynol ydyw a fydd yn cwrdd â chi a’r bobl sy’n bwysig i chi. Bydd yn dysgu beth rydych chi am weld yn digwydd ac yn eich helpu i siarad.

Mae gwasanaethau Eiriolaeth Broffesiynol yn cael eu darparu gan Borth Caerdydd a’r Fro.  Byddant yn eich cyfeirio at y gwasanaeth eirioli cywir i chi.

Man on the phone

Gall unigolion, gofalwyr neu weithwyr proffesiynol wneud atgyfeiriadau. Gallwch eu ffonio ar 080 8801 0577.