Budd-daliadau

Gallwch ddarganfod mwy am fudd-daliadau a sut i wneud cais amdanyn nhw.

Beth yw budd-daliadau?

Mae budd-daliadau yn arian y gall pobl wneud cais amdano i helpu i dalu am bethau fel:

• bywyd bob dydd,
• tai, a
• mynd o gwmpas.

Mae’n rhaid i chi wneud cais am fudd-daliadau gan fod y llywodraeth ond yn rhoi budd-daliadau i bobl sydd yn gymwys.

Mae sawl math gwahanol o fudd-daliadau y gallwch chi wneud cais amdanyn nhw yn dibynnu ar eich anghenion personol chi, fel:

An image of British bank notes and coins
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol (TAB)
  • Credyd Cynhwysol (CC)
  • Lwfans Byw i’r Anabl (LBA)
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gofalwyr (LG)
  • Lwfans Ceisio Gwaith (LCG)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh)
  • Grant Mynediad i Waith (GMW)

Bydd eich budd-daliadau’n newid pan fyddwch chi’n 18 oed neu pan fyddwch chi’n gadael yr ysgol. Mae angen i chi ddarganfod am hyn ymlaen llaw.

Gallwch chi siarad â’r Gwasanaeth Cyngor Ariannol am gymorth gyda budd-daliadau.

Gallan nhw gynnig cymorth i chi wirio a ydych yn derbyn y budd-daliadau iawn, a’ch helpu i gyllidebu neu reoli dyled.

Mae gan y gwasanaeth Dîm Cymorth Budd-daliadau Anabledd a all roi cymorth a chyngor i chi ynglŷn â:

  • Lwfans Anabledd Plentyn
  • Lwfans Gweini
  • Gallu Cyfyngedig i Weithio dan y Credyd Cynhwysol
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol
  • Lwfans Gofalwr

Bydd yr holl gymorth a chyngor y mae’r tîm yn ei roi i chi yn cael ei gadw’n breifat.

Gall y tîm roi cymorth i chi i’ch helpu i lenwi eich ffurflenni cais. Gallan nhw hefyd helpu gyda chwestiynau am gyngor ariannol a’ch cyfeirio chi at gymorth pellach.

Mae sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal mewn Hybiau ar draws y ddinas i gefnogi pobl gyda chwestiynau am fudd-daliadau anabledd.

Gallwch chi ffonio i drefnu apwyntiad.

  • mewn Hyb,
  • dros y ffôn, neu
  • yn eich cartref.