Deddf Galluedd Meddyliol

Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol  yn effeithio arnoch chi o 16 oed.  Mae cael galluedd meddyliol yn golygu y gallwch chi wneud penderfyniadau am eich bywyd.

Mae’r wybodaeth hon yn bwysig i chi a’r rhai sy’n agos atoch.

Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol:

  • yn anelu at gefnogi pobl i wneud eu dewisiadau eu hunain os yw’n bosib, ac
  • yn dangos sut y gall pobl eich helpu i wneud penderfyniadau os oes angen help arnoch.

Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn dweud wrthym:

  • fod gan bob person yr hawl i wneud penderfyniadau am ei fywyd os yw’n gallu,
  • bod pob penderfyniad yn wahanol. Efallai y bydd pobl yn gallu gwneud rhai penderfyniadau ac nid eraill,
  • bod pobl yn gallu gwneud penderfyniadau anghywir,
  • sut i weld a oes angen help ar bobl i wneud penderfyniad,
  • sut i helpu pobl i wneud penderfyniad,
  • sut i wneud penderfyniad er budd gorau person os na all wneud hyn ei hun, a
  • phwy ddylai fod yn rhan o’r broses penderfynu.

Mae hwn yn asesiad o allu person i wneud penderfyniad penodol.

Mae Asesiadau Galluedd Meddyliol yn gofyn a all person:

  • ddeall y wybodaeth am y penderfyniad,
  • cofio’r wybodaeth yn ddigon hir i wneud y penderfyniad,
Gold weighing scales
  • ystyried yr opsiynau a gwneud dewis, a
  • dweud beth mae’n penderfynu mewn unrhyw ffordd.

Mae Asesiadau Galluedd Meddyliol yn gofyn a ydyn ni wedi gwneud popeth posib i helpu’r person i wneud y penderfyniad ei hun. Er enghraifft, defnyddio gwybodaeth Hawdd ei Deall.

Pan na all pobl wneud penderfyniad drostynt eu hunain, yna rhaid gwneud penderfyniad er eu budd gorau.

Mae ‘budd gorau’ yn golygu bod y dewis gorau yn cael ei wneud i’r person.

Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn nodi’r hyn sydd angen i ni feddwl amdano wrth wneud penderfyniadau ar ran pobl.

Mae hyn yn cynnwys ystyried:

  • gwybodaeth a manylion am y penderfyniad,
  • a all y penderfyniad aros nes y gall y person ei wneud ei hun,
  • sut allen ni helpu’r person i wneud y penderfyniad,
  • sut allen ni gynnwys y person yn y penderfyniad,
  • beth fyddai’r person ei eisiau,
  • beth mae pobl eraill sy’n adnabod y person yn ei feddwl, a
  • pa benderfyniad sy’n rhoi’r rhyddid mwyaf i’r person.

Mae’r holl staff Anabledd Dysgu yng Nghaerdydd wedi’u hyfforddi i ddefnyddio’r Ddeddf Galluedd Meddyliol:

  • Rydym yn cefnogi pobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain lle bynnag y bo modd
  • Rydym yn deall pa mor bwysig yw barn gofalwyr a’r rhai sy’n agos at bobl o ran penderfyniadau budd gorau

Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth, siaradwch â’ch rheolwr achos.

Gallwch ddysgu mwy am y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn y canllaw hawdd ei ddarllen hwn.