Pontio
Mae pontio yn amser yn eich bywyd lle rydych yn tyfu i fyny ac yn paratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn.
Cynllunio ar gyfer pontio: gadael yr ysgol
Mae cyfarfodydd cynllunio ar gyfer pontio yn cael eu cynnal yn yr ysgol.
Yn y cyfarfod hwn byddi di’n:
- trafod dy ddyfodol, a
- llunio cynllun o dy gamau nesaf.
Gelli di wylio fideo i ddysgu mwy.
Mae yna wahanol opsiynau ar gael i ti pan fyddi di’n gadael yr ysgol, fel:

- gymorth trwy’r gwasanaethau cymdeithasol neu iechyd.

Bydd cyrsiau coleg yn cael eu trafod yn yr ysgol.

Ein coleg lleol yw Coleg Caerdydd a’r Fro.
Mae ganddyn nhw lawer o gyrsiau cyffrous.
Byddant yn siarad â ti am dy anghenion ac yn edrych ar sut y gallant eu diwallu.

Bydd gennyt ti gynllun pontio i dy helpu i fynd i’r coleg.

Bydd tîm y cyngor yn gweithio’n galed gyda’r coleg i addasu cyrsiau ar gyfer dy anghenion.
Os na all y coleg ddiwallu dy anghenion, bydd dy ymgynghorydd addysg yn dy helpu i chwilio am golegau eraill.

Os oes gennyt ti ddiddordeb mewn addysg bellach, bydd arbenigwyr addysg yn gwneud y penderfyniad terfynol gyda ti.
Bydd gweithwyr cymdeithasol yn rhoi cymorth i ti o amgylch dy anghenion gofal cymdeithasol.

Os oes gennyt ti weithiwr cymdeithasol, bydd yn dy gyfeirio at Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion.
Os mai ni yw’r tîm iawn i ti, bydd gweithiwr cymdeithasol pontio yn dod i dy adnabod ac yn gofyn beth sy’n bwysig.
