Proffiliau Iechyd

Gallwch chi ddysgu am Broffiliau Iechyd a pham maen nhw’n bwysig.

Beth yw Proffil Iechyd?

Mae Proffil Iechyd yn llyfryn gyda gwybodaeth bwysig am eich iechyd chi.

Gallwch chi ei ddefnyddio mewn:

  • ysbytai,
  • meddygfeydd,
  • optegydd, a’r
  • deintydd.

Gall eich helpu chi i siarad â:

  • meddygon,
  • nyrsys,
  • optegydd, a’r
  • deintydd.

Mae’n eu helpu nhw i ddeall eich anghenion chi.

Mae llenwi’r Proffil Iechyd yn gyflym.

Dylai gael ei ddiweddaru’n aml.

Gallwch chi ddysgu mwy am Broffiliau Iechyd ar wefan GIG Cymru.

Gallwch chi hefyd lawrlwytho Proffil Iechyd o wefan GIG Cymru.