Tîm Iechyd Anableddau Dysgu

Rydym yn gweithio’n agos gyda Thîm Iechyd Anabledd Dysgu.

A group of smiling doctors

Os ydych chi’n teimlo’n sâl neu os oes angen cyngor meddygol arnoch chi, dylech chi:

  • weld eich meddyg teulu, neu
  • ffonio 111.

Mae gyda ni Dîm Iechyd Anableddau Dysgu lleol sy’n cael ei ddarparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Maen nhw’n gweithio gydag oedolion sydd wedi cael diagnosis o anabledd dysgu.

Maen nhw’n cynnig cymorth iechyd arbenigol o amgylch eich anabledd dysgu pan fydd eich anghenion yn methu cael eu bodloni gan wasanaethau gofal iechyd arferol.

Maen nhw’n gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eraill i sicrhau bod eich anghenion iechyd yn cael eu bodloni.

Mae’r tîm yn cynnwys:

Nyrsio cymunedol

Mae’r nyrsys hyn wedi cael eu hyfforddi i ddeall anableddau dysgu a chanolbwyntio ar gefnogi pobl gydag:

  • anghenion iechyd cymhleth,
  • epilepsi,
  • anghenion iechyd meddwl, ac
  • anghenion ymddygiad.

Deieteg

Mae dietegwyr wedi cael eu hyfforddi i ddeall anableddau dysgu a byddan nhw’n gweithio gyda phobl sydd angen cymorth arbenigol yn ymwneud â bwyd a diod.

Therapi galwedigaethol

Mae therapyddion galwedigaethol yn asesu sgiliau bywyd bob dydd pobl ac yn gallu dweud pethau wrthyn nhw, fel:

  • sut i ddysgu sgiliau,
  • pa gymhorthion ac addasiadau bach allai helpu, neu
  • yr amgylchedd gorau ar gyfer y person.

Maen nhw hefyd yn gweithio gyda’r ffisiotherapydd i’ch helpu chi gydag ystum eich corff.

Ffisiotherapi

Mae ffisiotherapyddion yn gweithio gyda phobl y mae symudiad mewn rhan o’u corff yn gyfyngedig achos:

  • anabledd,
  • salwch, neu
  • anaf.

Mae’r ffisiotherapyddion wedi cael eu hyfforddi i ddeall anabledd dysgu. Maen nhw’n gweithio yn y gymuned.

Seiciatreg

Mae hwn yn feddyg arbenigol sy’n gallu asesu, rhoi diagnosis a thrin:

  • salwch meddwl,
  • dementia,
  • ymddygiad heriol, ac
  • epilepsi.

Seicoleg

Mae seicolegydd yn cefnogi pobl sy’n cael anawsterau gyda’r ffordd maen nhw’n teimlo, yn meddwl ac yn ymddwyn. Byddan nhw’n ceisio deall yr achosion a pha gymorth sydd ei angen.

Therapi lleferydd

Mae’r therapydd lleferydd yn asesu sgiliau cyfathrebu pobl ac yn helpu i gefnogi cyfathrebu gwell.

Maen nhw hefyd yn asesu pobl sy’n cael trafferth bwyta ac yfed ac yn rhoi cyngor ar sut y gall pobl fwyta ac yfed mor ddiogel â phosibl.

Gallwch chi, neu rywun sydd yn gysylltiedig â chi a chyda’ch cytundeb chi, wneud atgyfeiriadau. Gallan nhw eich helpu chi os oes angen:

  • help i gynllunio rhyddhau o’r ysbyty,
  • cymorth arbenigol i gael y gofal iechyd sydd ei angen arnoch chi,
  • cymorth gyda’ch ymddygiad neu eich iechyd meddwl, neu
  • help gan un o’r gweithwyr iechyd proffesiynol.

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r tîm iechyd. Os yw’r tîm gwaith cymdeithasol yn gysylltiedig â chi, maen nhw’n gallu gwneud atgyfeiriad os oes angen un arnoch chi.

Gallwch ddysgu mwy am Tîm Iechyd Anableddau Dysgu trwy siarad â'ch rheolwr achos.