Cwynion a chanmoliaeth
Dysgwch sut y gallwch chi wneud cwyn neu roi canmoliaeth am eich gwasanaeth.


Dywedwch wrthyn ni os ydych chi’n hapus gyda’r gwasanaeth rydych chi wedi ei gael.
Mae’n ddefnyddiol iawn gwybod beth sy’n gweithio’n dda.
Gallwch chi anfon canmoliaeth at eich rheolwr achos neu e-bostio GOcanmoliaethcwynion@caerdydd.gov.uk.

Rydyn ni eisiau clywed oddi wrthoch os nad ydych chi’n hapus gyda’r gwasanaeth rydych chi wedi ei gael.
Mae dweud wrthyn ni pan dyw rhywbeth ddim yn gweithio yn ein helpu ni i wella.
Rhowch wybod i’ch rheolwr achos os ydych chi’n anhapus am eu bod nhw yn gallu ceisio cywiro pethau.

Os dyw hyn ddim yn gweithio, gallwch chi gysylltu â’n Tîm Cwynion.
Bydd eich rheolwr achos yn gallu dweud wrth y Tîm Cwynion eich bod yn anhapus hefyd.

I gysylltu â’n Tîm Cwynion, gallwch:
- ein ffonio ni ar 029 2087 2087,
- ein e-bostio ni yn GOcanmoliaethcwynion@caerdydd.gov.uk
- ymweld â Hyb i siarad am eich cwyn, neu

Gallwch chi hefyd ysgrifennu aton ni yn:
Cwynion a Chanmoliaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Byddwn ni’n dweud wrthych chi ein bod ni wedi cael eich cwyn (mewn 5 diwrnod gwaith)
Byddwn ni’n edrych ar eich cwyn ac yn dweud wrthych chi beth allwn ni ei newid
Gallwch gael mwy o wybodaeth am wneud cwyn ar wefan Cyngor Caerdydd.




Mae Llais yn sefydliad annibynnol sy’n helpu pobl i godi llais am bryderon o ran gwasanaethau cymdeithasol neu iechyd.
Gall staff Llais eich helpu i godi’ch llais os ydych chi’n hapus â’ch gwasanaeth neu os ydych chi am wneud cwyn
Gallwch gysylltu â nhw yma: 02920 750112
Llais Caerdydd
Adeiladau Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ