Asesiad Lles
Mae asesiad lles yn ffordd o weld pa help y gallai fod ei angen arnoch chi.
Byddwn yn cwrdd â chi i siarad am:
- eich anghenion chi, a
- beth sy’n bwysig i chi.
Gallwch chi gael pobl eraill gyda chi pan fyddwn ni’n cwblhau eich asesiad lles.


Byddwn ni’n gofyn cwestiynau fel:
- beth sy’n bwysig i chi?
- beth sy’n digwydd yn eich bywyd chi ar hyn o bryd?

- pwy sy’n eich cefnogi chi ar hyn o bryd?
- beth ydych chi’n dda yn ei wneud?
- gyda beth y mae angen help arnoch chi?

- pa sgiliau yr hoffech chi eu dysgu?
- beth hoffech chi ei weld yn digwydd nesaf?

Byddwn ni’n ysgrifennu’r holl wybodaeth amdanoch chi a’ch anghenion.
Byddwn ni’n cytuno ar gynllun gofal gyda chi.

Gall eich cynllun gofal gynnwys:

- beth sy’n bwysig i chi a’ch nodau chi,
- pa gymorth sydd ei angen arnoch chi,
- pethau y gallwch chi eu gwneud eich hun,

- cymorth rydych chi’n ei gael gan eich teulu a’ch ffrindiau,
- cymorth y gallwch chi ei gael yn eich cymuned, a
- chymorth sy’n cael ei gynnig gan y cyngor.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn nodi sut y dylai gwasanaethau yng Nghymru gael eu darparu.
Mae’n dweud wrthon ni pryd a sut y dylai asesiadau gael eu cwblhau.