Dull yn Seiliedig ar Gryfderau

Mae Dull yn Seiliedig ar Gryfderau yn canolbwyntio ar gryfderau a galluoedd person.

Byddwn yn gweithio gyda chi i weld:

  • beth sy’n digwydd yn eich bywyd chi,
  • beth sy’n bwysig i chi,
  • pwy sy’n bwysig i chi,
  • beth ydych chi’n dda yn ei wneud,
  • beth ydych chi’n ei hoffi a ddim yn ei hoffi,
  • gyda beth mae angen help arnoch chi, a
  • beth ydych chi eisiau i ddigwydd nesaf.

Byddwn ni yn:

  • siarad â chi a’r rhai sy’n bwysig i chi
  • deall pa gymorth sy’n gweithio’n dda i chi
  • edrych ar yr hyn sy’n digwydd yn eich cymuned chi ac o amgylch y ddinas
  • gwnewch gynllun gofal gyda’n gilydd am y cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Pan fyddwn ni’n cyfathrebu â chi, byddwn ni yn:

  • esbonio pethau i chi mewn ffordd glir a hawdd
  • gofyn i chi sut ydych chi eisiau i ni gysylltu â chi.

Os yw rhywbeth ddim yn gweithio, byddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd i newid hyn.