Gofalwyr di-dâl

Mae llawer o bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn byw gartref gydag aelodau o’r teulu neu ffrindiau sy’n helpu i ofalu amdanyn nhw.

Rydyn ni’n gweithio gyda phobl a’u gofalwyr pan fyddwn yn cwblhau asesiadau ac yn datblygu cynlluniau gofal.

Rydyn ni’n edrych ar ba gymorth sydd ei angen ar bobl i fyw eu bywydau, a gall hyn gynnwys cymorth ar gyfer eu gofalwyr.

Gall asesiad gofalwr weithio allan pa gymorth y gallai fod ei angen arnoch chi wrth ofalu.

Mae yna ffyrdd gwahanol y gallwch gael asesiad gofalwyr:

Gallwch gwblhau asesiad gofalwr ar-lein ar wefan Cyngor Caerdydd.

Gallwch gysylltu â’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol i drefnu asesiad gofalwr.

Ffôn: 029 2023 4234

E-bost: CyswlltGwasBywAnn@caerdydd.gov.uk

Gallwch hefyd drefnu asesiad gofalwr trwy ofyn i Reolwr Achos yr aelod o’ch teulu.

Gallwch weld pa wasanaethau a chymorth sydd ar gael i ofalwyr ifanc:

Gallwch gwblhau ffurflen gyswllt ar-lein ar wefan Cyngor Caerdydd.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Cydlynydd Gofalwyr Ifanc ar 029 2087 2046.

Gallwch hefyd drefnu asesiad gofalwr trwy ofyn i Reolwr Achos yr aelod o’ch teulu.

Mae hon yn elusen leol sy’n cael ei rhedeg gan rieni, ar gyfer rhieni.

Colourful signs on a post

Gall y Ffederasiwn Rhieni gynnig:

  • cyfarfodydd cymdeithasol rheolaidd ac anffurfiol i ofalwyr
  • cyfeirio am gymorth
  • gwybodaeth am eich hawliau fel gofalwr, a
  • chyngor ar ba gymorth y mae gennych hawl iddo.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Ffederasiwn Rhieni am fwy o gymorth.

E-bost: admin@parentsfed.org