Byw â chymorth

Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd byw â chymorth i oedolion ag anableddau dysgu.

Mae mathau gwahanol o lety ar draws Caerdydd, gan gynnwys tai a fflatiau sy’n cael eu rhannu.

Mae ein tai â chymorth i gyd yn cael eu rhedeg gan arbenigwyr ac yn rhai nid-er-elw.

Mae gennych chi eich cartref a’ch preifatrwydd eich hun.

Bydd gennych chi gontract meddiannaeth.

Byddwch chi’n gallu cael help gan staff pan fydd ei angen arnoch chi.

Byddwch chi’n gallu dewis sut i wario eich arian.

Two ladies looking at a phone and smiling

Byddwch chi’n gallu gwahodd eich ffrindiau a’ch teulu draw.

Byddwch chi’n gallu dewis pwy rydych chi eisiau byw gyda nhw.

Byddwch chi’n gallu dewis sut rydych chi eisiau addurno.

Bydd staff yn dod i’ch adnabod chi’n dda.

Byddan nhw’n darganfod beth sy’n bwysig i chi.

Byddan nhw’n rhoi’r maint cywir o gymorth i chi.

Byddan nhw’n ysgrifennu cynllun cymorth gyda chi i’ch:

  • helpu i wneud dewisiadau a phenderfyniadau, a’ch
  • helpu i ddatblygu sgiliau a hyder.

Byddan nhw’n gallu eich helpu chi gyda gofal personol a gofalu am eich iechyd chi.

Byddan nhw’n gallu eich helpu chi i gadw eich cartref yn lân ac yn daclus.

Byddan nhw’n gallu eich helpu chi i ofalu am eich tenantiaeth.

A group of people walking through the woods

Byddan nhw’n gallu eich helpu chi i gymryd rhan yn eich hoff weithgareddau.

Lady working at a coffee shop

Byddan nhw’n gallu eich helpu chi i ddod o hyd i waith gwirfoddol neu hyfforddiant.

Byddan nhw’n gallu eich helpu chi i weld teulu a ffrindiau.

A group of people having fun

Byddan nhw’n gallu eich helpu chi i fod yn rhan o’ch cymuned.

Gallwch ddysgu mwy am byw â chymorth trwy siarad â'ch rheolwr achos.

Gallwch wylio’r fideo i gael rhagor o wybodaeth am cynhelwyr cymorth.