Dod o hyd i bethau i’w gwneud
Mae ein Cynllunwyr Cymorth yn arbenigwyr yn eich helpu i ddod o hyd i weithgareddau y byddwch chi’n eu mwynhau.
Rydyn ni’n gweithio gyda dros 80 o grwpiau yng Nghaerdydd ac rydyn ni bob amser yn dod o hyd i gyfleoedd newydd.


Mae ein tîm yn derbyn atgyfeiriadau gan y Tîm Anabledd Dysgu.
Gall ein tîm gynnig i chi:

Cynllunydd cymorth wedi ei enwi.

Help i ddarganfod eich diddordebau a’ch nodau.

Gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal chi.
![AdobeStock_499175839[1]](https://learningdisabilitycardiff.co.uk/wp-content/uploads/2025/04/AdobeStock_4991758391-250x167.jpg)
Help i ddod o hyd i weithgareddau a chreu amserlen.

Cymorth i fod mor annibynnol â phosibl.

Help i drefnu unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch i fynd i weithgareddau.

Cymorth i wneud ffrindiau a bod yn rhan o’ch cymuned.
Mae sawl ffordd y gall ein Cynllunwyr Cymorth eich helpu chi.
![AdobeStock_700206954[1]](https://learningdisabilitycardiff.co.uk/wp-content/uploads/2025/04/AdobeStock_7002069541-250x167.jpg)
Gallan nhw eich helpu i ddod o hyd i ddosbarthiadau addysg gymunedol fel:
- Cyfrifiaduron
- Llythrennedd
- Coginio
- Ieithoedd

Gallan nhw hefyd eich helpu i fynd i gyrsiau hyfforddi i ddatblygu sgiliau fel:
- Sgiliau cymdeithasol
- Sgiliau trafnidiaeth,
- Sgiliau ar gyfer cyflogaeth
- Sgiliau creadigol.

Gallan nhw eich cefnogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden rydych chi’n eu mwynhau, fel:
- Nofio
- Beicio
- Bowlio
- Campfa
- Pysgota
- Tennis

Gallan nhw eich cefnogi i gymryd rhan yn unrhyw un o’ch hobïau neu ddiddordebau, fel:
- Cerddoriaeth a dawnsio
- Gwaith coed
- Chwarae gemau ar-lein
- Crochenwaith neu gelf

Ar wahân i weithgareddau, gall ein cynllunwyr cymorth hefyd eich helpu i fynd i grwpiau hunan-eiriolaeth. Mae hunan-eiriolaeth yn golygu mai chi sy’n gyfrifol am yr hyn rydych chi eisiau ei wneud, ac rydych chi’n cael y cyfle i siarad am yr hyn rydych chi’n ei feddwl.

Pan fydd eich gweithgareddau newydd wedi cael eu rhoi ar waith, byddwn ni’n cwblhau adolygiad ar ôl 6 wythnos.
Bydd eich gwasanaeth wedyn yn dod i ben.
Gallwch wylio’r fideo i gael rhagor o wybodaeth am cynhelwyr cymorth.