Seibiant
Gall seibiant fod yn unrhyw wasanaeth sy’n caniatáu i berson a’i ofalwr dreulio amser ar wahân.


Gallai fod yn gymorth i gael gweithgareddau yn ystod y dydd.

Neu’n gymorth i gael seibiant dros nos.

Mae’r seibiant sydd ei angen ar berson yn cael ei ystyried gyda nhw a’u gofalwr nhw yn eu hasesiad lles.

Mae 3 tŷ seibiant lleol.

Mae rhai pobl yn dewis aros yn ein tai seibiant ni.

Mae rhai pobl yn dewis cael seibiant trwy daliadau uniongyrchol.

Bydd eich rheolwr achos yn gallu eich atgyfeirio am seibiant dros nos.

Bydd y rheolwr seibiant yn eich gwahodd chi a’ch gofalwr i’r tŷ seibiant.

Gallwch chi edrych o gwmpas y tŷ seibiant.
![AdobeStock_713955850[1]](https://learningdisabilitycardiff.co.uk/wp-content/uploads/2025/05/AdobeStock_7139558501-250x167.jpeg)
Gallwch chi gwrdd â staff fydd yn eich cefnogi chi.

Byddan nhw yn eich helpu chi i gynllunio eich ymweliadau.

Mae cael ymweliadau byr yn eich helpu chi i ddod i adnabod y gwasanaeth cyn i chi aros dros nos.

Bydd eich arhosiad yn cael ei gynllunio o amgylch eich anghenion, fel:
- dysgu sgiliau,
- cwrdd â phobl, neu
- cymryd rhan mewn gweithgareddau.

Byddwn ni yn eich paru gyda phobl eraill rydyn ni’n meddwl y byddwch chi’n dod ymlaen gyda nhw.

Mae seibiant wedi’i gynllunio ymlaen llaw i wneud yn siŵr eich bod yn gallu aros gyda phobl rydych chi’n eu hoffi.
Gallwch ddysgu mwy am seibiant trwy siarad â'ch rheolwr achos.