Atgyfeiriadau

Gallwch ddarganfod mwy am gymhwysedd ac atgyfeiriadau.

Bydd angen i ni weld ai ni yw’r gwasanaeth iawn i chi.

Bydd aelod o’n tîm yn gofyn am eich anghenion a’ch nodau. Byddwn yn gofyn cwestiynau fel:

  • Sut ydych chi’n hoffi cyfathrebu?
  • Beth sy’n digwydd yn eich bywyd chi?
  • Beth ydych chi’n dda yn ei wneud?
  • Gyda beth y mae angen help arnoch chi?
Man on the phone

Os ydych chi’n galw dros rywun arall, byddwn yn gofyn i chi a ydyn nhw wedi cytuno i hyn, neu a yw er eu lles nhw.

Efallai y byddwn yn gofyn i chi gwrdd â ni i gasglu mwy o wybodaeth.

Gallwch chi gysylltu â ni ar e-bost neu dros y ffôn.

Ffôn: 029 2053 6111.

E-bost: dyletswyddADoedolion@caerdydd.gov.uk

Colourful signs on a post

Os nad y Gwasanaeth Anabledd Dysgu yw’r gwasanaeth iawn i chi, byddwn ni yn dweud wrthoch chi ble gallwch chi gael help.

Os mai ni yw’r gwasanaeth iawn i chi, byddwn ni yn cwblhau asesiad lles gyda chi ac yn siarad â chi am y cymorth y gallai fod ei angen arnoch.